Cawl Cig Oen Cymreig

Cynhwysion

  • 1pwys Cig Oen Dyffryn Ystwyth wedi deisio
  • 1 wynwynsyn wedi sleisio
  • 1 cenninen wedi sleisio
  • 2 moronyn wedi sleisio
  • hanner swedsen wedi torri fyny
  • 3 twten wedi torri fyny
  • sprigyn o rhosmari a theim
  • 3/4 peint o ddwr
  • halen a phupur i flasu

Dull

  • Browniwch y cig oen a’r wynwyns mewn sosban fawr
  • Ychwanegwch gweddill y cynhwysion a dowch a hwy i’r berw
  • Rhowch y caead arno a’i mud-ferwi am tua awr a hanner
  • Gweinwch mewn bowleni gyda darnau mawr o fara crystiog a chaws Cymreig
  • Addurnwch efo mintys wedi malu
  • Mwynhewch