Bydd Cig Eidon wedi ei gynhyrchu gan Rob Lewis ar Fferm Glanelan a chig oen o’n fferm ni ein hunain,  ar fwydlen Tafarn y Triongl yng Nhwmdauddwr, Rhaedr Gwy (www.triangleinn.co.uk) yr wythnos nesaf, ar gyfer ymwelwyr fydd yn ymweld a’r ardal dros wythnos y Sioe Fawr.    Rydym yn paratoi cig eidon a chig oen o Fferm Glanelan yn rheolaidd,  yn benodol ar gyfer Tafarn y Triongl, lle gallant ymfalchio mewn cig o’r ansawdd gorau wedi eu gynhyrchu o fewn tafliad carreg i’r dafarn.