“Roeddem yn llawn at yr ymylon”
felly, yn 2003 adeiladwyd Uned Brosesu Cig bwrpasol ar y fferm. Yn wreiddiol y cynllun oedd i ddarparu arwynebedd paratoi ychwanegol ond y gwir yw ei bod wedi profi ei hun yn ased angenrheidiol i dyfiant ein busnes; mae nawr yn safle lle caiff y cig a’r cynnyrch cig i gyd eu paratoi, yn barod i’w werthu yn y siop neu i’r farchnad arlwyo. Mae’n caniatáu i ni ganolbwyntio ar yr elfen fanwerthu yn ein siop, a ffocysu ar weini a helpu ein cwsmeriaid. Mae’r gwaith ‘trwm’ yn cael ei wneud yn yr Uned lle cynlluniwyd adnoddau ar gyfer ysgafnhau gwaith trin a thrafod. Caiff y cig ei ddychwelyd o’r Lladd-dy i’r Uned
- ar ffurf chwarteri o bîff sydd yna’n cael ei hongan i aeddfedu a datblygu mewn blas am 21 diwrnod neu fwy. Drwy reoli tymheredd yr amgylchedd mae hyn yn gadael i’r ensymau dorri lawr y ffeibrau cyhyr, ac felly’n dwysáu’r blas a thyneru’r cig. Yna caiff yr asgwrn ei dynnu o’r bîff a’i baratoi fel darnau a thoriadau.
- carcasau cyfan o gig oen sydd hefyd yn cael eu hongian am 7-10 diwrnod i aeddfedu cyn cael eu bwtsiera a thynnu’r asgwrn.
- caiff carcasau moch eu bwtsiera a’u paratoi, naill ai fel toriadau porc, neu eu halltu ar gyfer bacwn a gamwn ac i wneud amrywiaeth o selsig gan ddefnyddio ein rysait ein hunain.
Mae hongian neu aeddfediad cig yn gwella tynerwch a safon bwyta. Mae aeddfediad yn ddibynnol ar y tymheredd a’r amgylchedd rheoledig lle y’i cedwir, ac mae’r adnoddau a’r amodau yn ein huned yn caniatau i ni i wneud hyn.
