Dros y blynyddoedd rydym yn falch o gael ein gwobrwyo â nifer o anrhydeddau am ein gwasanaeth cig, cigyddiaeth a ffermio.
- 2018 Ennill Pencampwriaeth Arwerthiant Beltex Cymru efo hwrdd blwydd “Rattrays Cymro”
- 2015 Cil-wobr Gwrywaidd yn Arwerthiant Defaid Beltex Cymru yn y Trallwng efo oen hwrdd “Rattrays Alligator”
- 2015 Ennill Pencampwriaeth Gwrywaidd a Cil-wobr y Prif Bencampwriaeth yn Arwerthiant Beltex Caerlewelydd efo hwrdd blwydd, “Rattrays Worthington”
- 2014 Ennill Pencampwriaeth Arwerthiant Beltex Cymru efo hwrdd blywdd “Rattrays Tyson”.
- 2013 Rob yn cael ei anrhydeddu o’i wneud yn Aelod Cyswllt o’r Gymdeithas Amaethyddol Brenhinol (ARAgS) am ei gyfraniad i ddatblygiad amaethyddol
- 2013 Sioe Frenhinol Cymru : Ennill 2ail wobr yn y dosbarth wyn hyrddod Beltex efo “Rattrays Tyson”
- 2013 Sioe Llanilar : ennillwyr Pencampwriaeth Rhyngfrid y Defaid efo Oen Benyw Beltex “Rattray Tamara”
- 2012 Cil-wobr rhanbarthol Cymru yng Ngwobr Siop Gigydd Genedlaethol y Flwyddyn
- 2012 Enillwyr tarian Iwan Hughes yn Sioe Frenhinol Cymru am y grwp o 3 dafad orau yn Adran y Defaid Glas Texel
- 2012-2012 Gwobr Efydd Gwir Flas am Facwn Melys wedi’i halltu
- 2011 Sioe Amaethyddol Aberystwyth: Enillwyr y Bencampwriaeth i Grwp o Dri Rhyngfrid
- 2010 Sioe Amaethyddol Cymru: Pencampwriaeth Adran Gwrywod Defaid Beltex efo Hwrdd dwyflwydd “Rattrays Mr Urdd”
- 2009/2010 Gwobr Aur Gwir Flas: Ham wedi ei ferwi Rob Rattray ei hun
- 2008 Gwobr Aur Gwir Flas am Selsig Cig Oen, Mint a Mêl
- 2007/08 Gwobr Cymeradwyaeth Gwir Flas: Bacwn Triog wedi’i halltu
- 2007/08 Gwobr Cymeradwyaeth Gwir Flas: Selsig Cig Oen, Mint a Mêl
- 2007/08 Gwobr Cymeradwyaeth Gwir Flas: Cig Oen Dyffryn Ystwyth wedi’i drin
- 2007 Cil-wobr rhanbarthol Cymru Siop Gigydd y Flwyddyn
- 2006-07 Gwobr Cymeradwyaeth Gwir Flas: Bacwn Triog wedi’i halltu
- 2006 Cil-wobr rhanbarthol Cymru Siop Gigydd y Flwyddyn “… y siop leiaf yn y Gwobrau eleni ac eto yn fawr o ran safon,” medd y beirniad
- 2006/07 Gwobr Aur Gwir Flas am Gig oen Dyffryn Ystwyth wedi’i sgleinio mewn mêl a Pharsel Cig Oen Dyffryn Ystwyth
“Yng Nghymru, mae gennym y cig oen gorau yn y byd a heno rwy’ mor falch o ennill Gwobr Aur Gwir Flas am y Cig Oen Gorau yng Nghymru”
oedd ymateb Rob wrth iddo dderbyn ei wobr i gymeradwyaeth ei 450 o gyd-westeion. Ennyd o falchter mae’n sicr!
