Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyflwyno system raddio Hylendid Bwyd, lle mae holl sefydliadau cynhyrchu a gwerthu bwyd yn cael ‘gradd glendid’ yn dilyn arolwg gan swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol. O dan y cynllun, mae busnesau yn cael eu graddio o 0 – 5, gan gymryd i ystyriaeth sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei oeri a’i storio, yn ogystal â chyflwr yr adeiladau. Rydym ni yma, ym musnes Cigyddion Rob Rattray, yn falch o fod wedi cael ein gwobrwyo gyda’r Radd Lendid uchaf o 5, neu ‘Da iawn’ yn y Siop a’r Uned Gig; gellwch ganfod hyn yn hawdd ar sticer amlwg yn ein ffenest, neu oddi mewn y siop mewn tystysgrif wedi ei fframio ac yn ein Uned Cig. Rydym yn gyfan gwbl ymroddedig i les ein cwsmeriaid, ac felly’n cymryd gofal caboledig o bob agwedd o lendid bwyd a diogelwch yn ein busnes. Mae ein staff i gyd wedi eu hyfforddi’n llawn yn y cyngor diweddaraf a’r rheoliadau, ac mae Rob wedi sicrhau Tystysgrif Lefel 4 (Uwch) mewn Diogelwch ac Hylendid Bwyd. Rydym yn falch o dderbyn canmoliaeth am y modd rydym yn rheoli hylendid bwyd o fewn ein busnes, a cawsom ein dewis gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gyflwyno ffilm fer o arweiniad i gigyddion yn hyrwyddo yr ymarfer glendid gorau a diogelwch bwyd. Gellir gweld y ffilm ar gyswllt “E-Coli 0157 – Canllaw i gigyddion ar gadw’n ddiogel”
“Mae fy rhan i yn y ffilm hon, ynghyd â’m hyfforddiant uwch mewn Hylendid Bwyd wedi cyfrannu i fy ymwybyddiaeth o lendid bwyd a’m gallu i gynnal safonau glendid o ddydd i ddydd o fewn y fusnes.”
Mae ein holl staff wedi eu hyfforddi mewn Hylendid Bwyd Rob Rattray
- C.I.E.H. Lefel 4 (Uwch) Gwobr mewn Rheolaeth Bwyd Diogel
Paul Rowbotham
- C.I.E.H. Lefel 3 Gwobr mewn Rheolaeth Bwyd Diogel (Canolradd)
- Cwblhau cwrs Rheolwyr Hylendid Cig a HACCP Cigyddion cyfanwerthol
Dennis Griffiths
- C.I.E.H. Lefel 3 (Canolradd) Gwobr mewn Rheolaeth Diogel Bwyd
Dennis Hodges
- C.I.E.H. Lefel 2 Tystysgrif Sylfaenol mewn Rheolaeth Bwyd Diogel
Dafydd W Davies
- C.I.E.H. Lefel 2 (Sylfaenol) Gwobr mewn Rheolaeth Bwyd Diogel
Gwilym Jones
- C.I.E.H. Lefel 2 (Sylfaenol) Gwobr mewn Rheolaeth Bwyd Diogel
Sheila Rattray
- C.I.E.H. Lefel 3 (Canolradd) Gwobr mewn Rheolaeth Bwyd Diogel
- Cwblhau cwrs Rheolwyr Glendid Cig a HACCP Cigyddion cyfanwerthol
