Medrwch brynu unrhyw un o’n cynhyrchion a restrir ar ein tudalen gynnyrch (ac os nad yw wedi ei restru gellir gwneud cais) yn syml drwy gysylltu â ni a gosod eich archeb. Gellir dosbarthu i unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig, felly medrwch fwynhau cig blasus Dyffryn Ystwyth, Cig Eidon Ceredigion, ein Bacwn Cartre’ neu unrhyw gynnyrch arall ble bynnag y byddwch! Cysylltwch ac mi fedrwn drafod eich anghenion yn unigol. Bydd bob archeb yn cael ei baratoi yn arbennig ar eich cyfer.
Archebu
I osod archeb, llanwch y ffurflen isod, oneu phoniwch ni yn y siop ar 01970 615353 a gallwn drafod eich gofynion arbennig
Bydd angen gwybod:
- Pa gig, torriadau, pwysau, maint neu rhif
- Caiff pob archeb ei baratoi yn unigol ar eich cyfer
Dosbarthu
- Rydym yn cynnig gwasanaeth cludo i gwsmeriaid lleol ac mae manylion am y trefniadau yn cael ei diweddaru ar ein tudalen “Siop Siarad” yn rheolaidd
- Gellir hefyd eu hanfon gan gwmni trosglwyddo mewn bocsys wedi eu selio a’u hoeri gan fagiau rhew a fydd yn cadw tymheredd oer o 5 gradd neu oddi tano
Talu
- Rydym yn derbyn taliad trwy Gerdyn Credit neu Ddebyd (rydym yn derbyn y rhan fwyaf o’r prif enwau)
- Rhaid gwneud taliad cyn danfon yr archeb.