Brenan
Alwyn Davies, brawd-yng-nghyfraith Rob (brawd Sheila) sy’n ffermio yn Brenan erbyn hyn ac mae Alwyn yn arbenigwr ar gynhyrchu gwartheg bîff ac wyn tew ar gyfer y farchnad. Mae’n gweithio ar gynllun ailhadu caeth a gall ei stoc drosi y glaswellt maethlon a ffrwythlon i gig tyner a melys o’r safon orau yn effeithiol. Mae Alwyn yn wyneb cyfarwydd yn y marchnadoedd da byw ac hefyd wrth feirniadu mewn sioeau, gan feirniadu dosbarthiadau’r wyn yn y Ffair Aeaf Gymreig yn achlysurol a hyn yn brawf o’i allu i adnabod stoc o’r radd flaenaf,
“Rwyn gallu pipo dros ben clawdd i weld pa stoc sydd ar gael gan Alwyn. Mae bob amser dewis da o wartheg bîff ac wyn tew yno ac mae Alwyn yn gadael i mi eu dethol a chael y dewis ohonynt,” medd Rob.
