Daw ein biff o ffermydd lleol ac yn cael eu cynhyrchu gan ffermwyr profiadol sy’n adnabyddus am safon eu stoc a’u systemau ffermio a byddant yn cael eu dewis yn bersonol gan Rob eu hunan. Caiff y gwartheg eu cigyddio’n lleol a’u bwtsiera yn ein Huned Gig bwrpasol ar ein fferm. Mae’r chwarteri ôl yn cael eu hongian ar yr asgwrn mewn amgylchedd sydd â thymheredd wedi ei reoli am o leiaf 21 niwrnod i aeddfedu; yn ystod y broses hon mae’r ensymau yn torri i lawr y ffeibr cynhyr sy’n dwysáu y blas ac yn gwneud y cig yn fwyfwy tyner. Mae gan ein cig haen dda o fraster sy’n angenrheidiol i atal y cig rhag sychu yn ystod yr hongian ac i gynnal blasusrwydd wrth goginio.

Cynnyrchion
- Syrlwyn wedi’i rolio
- Asen Bîff wedi’i rholio
- Topseid
- Asen ar yr asgwrn
- Ystlys las
- Brisged wedi’i rolio
- Stecen ffiled
- Stecen asgwrn-T
- Stecen Syrlwyn
- Stecen grwper
- Stecen Asen Lygad
- Stecen i’w brwysio