“Medru sicrhau safon cyson bob amser yw un o gyfrinachau allweddol fy musnes.”
Gall cig oen fod yn gynnyrch tymhorol ac wrth ddefnyddio ein fferm ein hunain a ffermwyr lleol eraill sydd a systemau ffermio cymwys, gallwn sichrhau cyflenwad cyson o gig oen o safon drwy’r flwyddyn, hyd yn oed hyd at ddiwedd misoedd y gaeaf. Rydym yn cynyrchu wyn o’r ddafad Miwl Cymreig/Lleyn wedi ei chroesi a hwrdd Beltex, i gynhyrchu oen cigog, siapus a fyddwn yn falch ohonno. Mae ffermydd eraill yn Nyffryn Ystwyth hefyd yn ein cyflenwi trwy gynhyrchu wyn yn benodol i ni, gan ddefnyddio cynllun bridio a bwydo cytunedig. Rydym yn ymfalchio yn ein dull o ffermio sy’n golygu bod ein wyn i gyd yn cael eu magu’n araf a graddol ar borfa, gydag ychydig iawn o ddwysfwyd, fel bo’r angen. Caiff ein hwyn eu dethol gan Rob sy’n dethol wyn a fydd yn darparu y toriadau mwyaf cigog gyda dyfnder o gig yn ymestyn i’r llwyn ac ychydig fraster. Lleddir yr wyn yn y lladd-dy lleol yn Nhregaron a chânt eu hongian yn ein Huned Gig am 7-10 diwrnod i aeddfedu. Mae’r broses hon yn hyrwyddo tynerwch a blas, ac ynghyd â gorchudd ysgafn o fraster bydd yn sicrhau bod y cig yn cadw’n dyner a blasus wrth goginio er mwyn rhoi y blas gorau posib i’r cig oen ar y plât.
“Rwyn mynd at Rob Rattray i ‘nol cig oen Dyffryn Ystwyth o’i fferm ef, i goginio’n araf ar gyfer y bwyty ac i fwyta adref.
Mae’n hynod o dalentog ac yn wych i weithio efo. Heb unrhyw amheuaeth -Cig Oen Cymru yw’r gorau yn y byd” cyfieithiad o eiriau Gareth Ward o Fwyty gydag Ystafelloedd Ynyshir, yn ei erthygl ar Arwyr Bwyd Lleol yn Y Telegraph ar y 29 Fedi 2018.
Cynnyrch
- Coes Cig Oen
- Ysgwydd ddi-asgwrn wedi’i rholio o Gig Oen
- Golwythion Cig Oen
- Steciau Coes Cig Oen
- Steciau Blasus Ysgwydd Cig Oen
- Briwgig Cig Oen
- Cig Oen deisiog
- Cannon Cig Oen
- Byrgyrs Cig Oen
- Iau Oen
- Calon Oen
- Brest Oen
- Selsig Cig Dafad, Mintys a Chyrens Coch
- Ragiau Cig Oen wedi eu sgleinio â mêl
- Parseli Cig Oen
- Selsig Cig Oen, Mintys a Mêl
- Amrywiaeth o Doriadau Cig Dafad
