Daw ein dofednod ffres oddi wrth gyflenwyr dibynadwy a sefydledig sydd â safonau lles uchel; gwarentir bod ein adar yn Gymreig neu Prudeinig. Mae’n cywion ieir yn cael eu bwydo â grawn a’u magu mewn sgubor er mwyn cynnal blas a safon, neu yn adar maes o fferm dewisol. Daw ein twrcïod ffres o Fferm Brynblodau ac i gyd yn dwrcïod maes sy’n cael eu magu gan y teulu Gibbons yn ardal Tregaron, sy’n caniatáu iddynt bori a chrwydro yn rhydd, a’r teulu Gibbons wedi bod yn ein cyflenwi ers diwedd y 1990au a’i cynnyrch yn gyson o’r safon uchaf. Cynhyrchir y hwyaid Gressingham am eu safon uchel o gig blasus ynghyd â’u canran isel o fraster. Cynyigir amrywiaeth helaeth o gynnyrch cyw iar yn ddyddiol, megis ffiledau, coes, darnau cyw iar, ond heb amheuaeth yr”wystrys cyw iar” yw y ffefryn gan gwsmeriaid.

Dofednod
- Cywion ieir sgubor
- Ffiled Cyw Iâr
- Cyw Iâr Supreme
- Coesau Cyw Iâr
- Hwyaid Gressingham (i’w harchebu)
- Brest Hwyaden
- Twrci maes Brynblodau (i’w archebu)
Cynnyrchion
- Wystrys Cyw Iar (clun cyw iar hen asgwrn) wedi ei glymu a bacwn a’i flasu a
- Pupur Lemwn
- Tikka
- Menyn Garlleg
- Chilli Melys a Leim
- Barbeciw wedi ei fygu
- Tseiniaig
- Ceosau Cyw Iar Barbeciw
- Coesau Cyw Iar Tseiniaig
- Coesau Cyw Iar Tikka