Siop Siarad
Paratowch at Nadolig 2020
Mae bwrlwm y siopa Nadolig yn argoeli i fod yn wahanol iawn eleni. Felly gadewch i ni wneud beth gallw ni i helpu’n gilydd. Os fedrwn cael archebion fewn yn gynnar fe allwn wedyn wneud ein gorau i drefnu amserau casglu a darparu i siwtio pawb. Mwy pwysig na dim, mae...
Cario i’r Car
Os na fedrwch barcio yn agos i’r siop, bydd aelod o’n staff ond yn rhy barod i ddod a’ch siopa i’r car i chi. Maent wrth eu bodd yn cael cyfle i ddianc o’r siop am dro bach ambell waith!!
Trefniadau cludiant
Rydym yn newid trefniadau cludo fel a ganlyn. Byddwn yn yr ardaloedd canlynol ar y dyddiau nodedig. Mae angen archebu y diwrnod cynt. Diolch am bob cydweithrediad Bore MERCHER - Llanfarian, Llanilar, Llangwyryfon, Llanrhystud, Aberaeron. Pnawn MERCHER - Penrhyncoch,...
Bocs Cig Oen £99
Pecyn o amrywiol ddarnau o gig Oen lleol Dyffryn Ystwyth (tebyg i'r llun) am £99. Archebwch ymlaen llaw ar messenger, ebost i admin@robrattray.co.uk neu 01970 615353.
40 mlynedd o fwtsiera
Ble aeth y deugain mlynedd diwethaf! Gadael ysgol yn 16 a chael cynnig gwaith dros yr haf efo Maldwyn ac Emma yn siop Morgans. Bwrw mhrentisiaeth yno dan lygad craff aelod arall o'r staff, gwr o'r enw Mr Kraiche. Maldwyn a mi'n cytuno ei fod yn grefftwr yn y maes ac...
Archebwch ymlaen llaw.
Rydym am annog cwsmeriaid i archebu ymlaen llaw er mwyn lleihau amser aros wrth y drws. Ffoniwch 01970 615353 neu ebostwch admin@robrattray.co.uk
Oriau Agor wedi newid
Cyflenwi’r Siopau Lleol
Mae ein cynnyrch yn awr ar gael ar silffoedd yn Siop Penrhyncoch, Siop Cletwr a Siop Cemaes.
Cludiant i gwsmeriaid
Rydym yn cludo archebion i gwsmeriaid lleol yn ol y trefniant hyn (gall newid yn ol y gofynion) Dydd Mawrth - Lleol Dydd Mercher - i'r gogledd i gyfeiriad Tre'r Ddol, Penrhyncoch ac ati Dydd Iau - i'r de i gyfeiriad Llanrhystud, Llanilar, Trawscoed ac ardaloedd ar y...
Siopa’n haws
Er mwyn hwyluso eich dull o siopa rydym yn cynnig pecyn teuluol am £40 tebyg i hyn (cynnwys yn newid o wythnos i wythnos). Archebwch ymlaen llaw ar 01970 615353 neu ebostiwch robrattray@hotmail.co.uk.
NEWIDIADAU i’r SIOP
Er mwyn ceisio diogelu iechyd ein staff a'n cwsmeriaid mae wedi bod yn hanfodol i wneud newidiadau o fewn ein busnes. Rydym nawr yn gwasanaethu ein cwsmeriaid dros garreg y drws. Er fod ein cynnyrch i gyd ar gael ac i'w gweld yn y ffenestr, nid oes mynediad i'r siop i...
Aelod Iau CFfI Cymru 2020
Llongyfarchiadau Elin! Balch iawn ohonnot yn cael dy ddewis yn Aelod Iau Clybiau Ffermwyr Cymru penwythnos diwethaf. Mwynha'r flwyddyn...ond cofia, bydd angen gweithio ambell i benwythnos!!
Every week is “Pork from Wales” week
This week is"Pork from Wales Week"! But every week is "Pork from Wales" week at Rob Rattray Butchers. Our pork is weekly sourced from Penlan farm, where Brinley and his son Carwyn produce home reared pigs to our particular specification and have been doing so for the...
Dofednod yn syth i’r oergell!!
Rhybudd.... ar ol casglu ein dofednod o'r siop mae angen eu cadw yn y rhewgell hyd nes eich bod yn barod i'w coginio!! Dydi'r garej, sied, porch ag ati ddim digon oer! Edrychwch ar ei hol. Joiwch.
Ga’ i honna
[:en]Rob calls in with Russell Gibbons to see how the turkeys are doing and picks his bird for Christmas. Arders are prepared and hand picked to suit each customers personal requirements, Choice of local farm Turkeys, Geese, Chickens and Ducks.
Gwobrau o’r Ffair Aeaf
Rhai o'r rhubannau a dderbyniwyd efo'r stoc a brynasom yn y Ffair Aeaf wythnos hyn. Cardiau coch efo moch a arddangoswyd gan ein cyflenwyr wythnosol, Brinley a Carwyn Davies, Penlan ac sydd ar ei ffordd yn ol atom. Rhuban Prif Bencampwr yn adran y Gwartheg Duon...
Archebwch yn gynnar i’r Nadolig
Archebion at Y Nadolig yn dod fewn nawr. Twrciod fferm eto eleni o'n cyflenwr cyson Russell Gibbons sydd wedi bod yn ein cyflenwi a twrciod o'r radd flaenaf ers dros 20 mlynedd. Rydym yn dethol pob archeb yn unigol i gwrdd a'ch gofynnion. Archebwch yn gynnar i'n helpu...
Cwrs Hyfforddiant HCC i Trystan
Wythnos diwethaf bu Trystan Davies ar gwrs hyfforddiant dan nawdd Hybu Cig Cymru i Gaerdydd, lle cafodd gyfle i ddysgu sgiliau newydd o dorri a pharatoi cig. Bu'n siarad ar Radio Caerdydd y bore yma am ei ddiddordeb yn y gwaith. Gan fod ganddo ddiddordeb a phrofiad...
Robert Rattray FRAgS
Anrhyded i Robm yn Sioe Frenhinol 2019 oedd iddo gael ei anrhydeddu a'i wneud yn Gymrodor o Gymedeithas y Sioeau Brenhinol. Derbyniodd yr anrhydedd hwn a balchder am ei gyfraniad parhaol i ddatblygaidau ynglwm ag amaethyddiaeth.
Pwy sy’n gwybod lle oedd y Littlee Theatre yn Aberystwyth?
Tra roedd Jess Conrad ar ei ymweliad cyntaf a thref Aberystwyth ar ol 62 mlynedd, bu yn y siopa gyda Rob Rattray ac yng nghanol y bwrlwm sgwrsio, gofyn a oedd rai ohonom yn cofio'r Little Theatre lle cychwynwyd ei yrfa berfformio. Er ein bod i gyd yn "rhy ifanc" i...
Lleyn-x-Beltex from our own farm
Lleyn-x-Beltex lamb from our own farm on the way to our shop this morning. #Lovelambweek
Galw am hyrddod Beltex Rattray yn y Trallwng
Hyrddod a ddiadell Rattray yn gwerthu'n dda yn Arwerthiant Clwb Beltex Cymru ym Marchnad y Trallwng dydd Mercher diwethaf. Gwerthwyd Rattrays Dynamite am £1,300 i Robert Coney o sir Benfo, yntau wedi bod yn llwyddiannus yn sioe Carcas Wyn y Ffair Aeaf yn y gorffennol...
Lleol yng ngwir ystir y gair!
Cig Oen yr wythnosau yma wedi eu cynyrchu ar dir fferm Troedrhiwfronfrech yn edrych dros tref Aberystwyth! Dyna beth yw lleol!
Crysau newydd i Dim Ieuenctid Aberystwyth
Rob yn cyflwyno crysau newydd i Steffan fel Capten tim Rygbi Ieuenctid Clwb Rygbi Aberystwyth. Pob hwyl fechgyn am y tymor nesaf. "Joiwch y chware gymaint a wnes i!!"
Diwrnos pluo ers talwm
Hen lun a ddaeth i law o deulu Rob ar ddiwrnod pluo. Byddent yn magu a chadw nifer fawr o dwrciod ar gyfer y Nadolig ac yn ol traddodiad byddai aelodau o'r teulu, cymdogion a ffrindiau yn crynhoi ar ddiwrnod pluo i gynorthwyo efo'r gwaith. Diolch i Rhiannon Williams...
Nadolig Llawen!!
Well dyna prysurdeb y Nadolig drosodd am flwyddyn arall!! Diolch i'n holl gwsmeriaid, cyflenwyr, ffrindiau a chyfeillion am eich cefnogaeth eto dros Nadolig 2018 a thrwy'r flwyddyn. Joiwch eich Nadolig a phob hwyl dros yw Wyl. Diolch i'r tim o staff am eich gwaith...
Ennillyd lwcus ein cystadleuaeth Facebook
Llongyfarchiadau Emyr Evans ar ennill ein cystdaleuaeth Twrci ffres i'r Nadolig yn ein cystadleuaeth Facebook. Dyma alun ac Enid Evans yn casglu'r twrci ar ei ran. Joiwch yr wyl!!.
Twrciod yn dechrau cyrraedd
George Gibbons Brynblodau yn cyrraedd efo rhai o'r twrciod cynnar. Teulu Gibbons wedi bod yn ein cyflenwi am dros 20 mlynedd. Onid ydi hyn yn dwedu y cyfan!! Does dim gwell i ni fel busnes na gwybod y gellir dibynnu ar ein cyflenwyr i ddarparu twrciod o'r un safon...
Cig Eidon y Ffair Aeaf i’r Nadolig
Peth o'r Cig Eidon a brynwyd gan Rob Rattray yn y Ffair Aeaf yn hongian yn ein Uned ar gyfer y Nadolig. Archebwch ymlaen llaw i sicrhau ein bod yn medru cadw darn addas ar eich cyfer.
Rattray Cymraes yn ennill Cil-Bencapwr
Dafad flwydd o'r ddiadell, Rattrays Cymraes yn cipio'r wobr gyntaf yn nosbarth y defaid blwydd ac yn mynd ymlaen i fod yn Is-Bencapwr y sioe yn Arwerthiant y defaid Beltex ym Marchnad y Trallwng heddiw. Mae Cymraes yn ferch i Dooley thurstan ac un o ddefaid hynaf ein...
Pencapwyr Moch y Ffair Aeaf
Rob Rattray wedi prynu Pencampwyr Moch y Ffair Aeaf ar gyfer eu gwsmeriaid i'r Nadolig. Pencampwr y Par Buddugol oddiwrth bridiwyr lleol, Myrddin James, Llangeitho a Phencampwr Unigol Adran y Mochyn wedi cael ei gynyrchu a'i arddangos gan Brinley a Carwyn Davies ac...
Beth mae’r ddau yma lan i?
Ychydig o hwyl rhwng y staff a'r cwsmeriaid! Beth tybed yw'r joc? I weld yn hapus efo'r aderyn ta beth!
Ennillwyr yn y Ffair Aeaf!
Llongyfarchiadau mawr i Steffan ac Elin Rattray ar ddod i'r brig yn y cystadleuaethau Barnu Carcas Wyn C.Ff.I. Cymru yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd wythnos hyn. Steffan yn fuddugol dan 18 ac Elin dan 16. Da iawn chi'ch dau. Daliwch ati.
Pencampwyr y Moch!!
Llongyfarchiadau i enfawr i Brinley a'r teulu o fferm Penlan ar ennill Prif Bencampwriaeth y Moch Unigol yn y Ffair Aeaf wythnos hyn. Mor falch o'i llwyddiant. Mae'r Brinley a'r teulu wedi bod yn cyflenwi moch ar ein cyfer ers dros ugain mlynedd a'r moch yn gyson...
Rob Rattray yn barnu Ffair Aeaf Lloegr
"Roedd yn fendigedig i gael y cyfle i farnu Sioe mor dda o wartheg o safon mor uchel. Aeth y Bencampwriaeth i hether oedd yn llawn cig a byddai yr union math o anifail byddwn yn dewis i'm musnes i. Mwynhaeais y profiad o farnu yn Bingley Hall ac mi wnes i a fy nhyd...
“Der i weld y biff Richard”
Richard Tudor, Glanystwyth yn galw heibio i weld y biff. Cig Eidon o wartheg Duon Cymreig yn y siop i'r penwythnos nesa.
Yn y Telegraph ddoe
Why the 'Biarritz of Wales' is one of Britain's best-kept secrets ".....there's Rattrays the butcher (do not pass without purchasing his treacle cured bacon)................"...
Cig Oen Rob
Cig oen o'n fferm ein hunan yn y siop wythnos hyn
Pan ni’n dau yn edrych yn fach!!
Llongyfarchiadau i Gareth Ward o Westy Ynyshir, Eglwysfach, ac gael ei enwi yn "Chef of the Year" yn y "2019 Good Food Guide". Pan mae'n galw fewn i drafod ei archeb cig mae'n neud i fi a Paul edrych yn fach.... Wna i ddim cecran a hwn!!
Canmoliaeth Chef y Flwyddyn yn y Daily Telegraph
Falch o'r eite, a'r ganmoliaeth yn y Daily Telegraph ddoe. Llongyfarchiadau anferthol i un o'n cwsmeriaid ffydlon, Gareth Ward o Westy Ynyshir ar ennill gwobr "UK Chef of the Year" efo'r Good Food Guide yn ddiweddar Dywed Gareth ei fod yn dod atom i brynu cig oen...
Diolch am eich cefnogaeth Nick Zalick
Mor braf medru croesawi Nick Zalick i'r siop heddiw! Bu Nick yn gefnogol iawn imi fel cigydd ifanc yn ystod y 1980au gan ddysgu llawer i mi am ddulliau newydd o dorri ac arddangos cig oen. Rhoddodd anogaeth a chefnogaeth imi wrth fentro i fyd busnes yn 1991 a byddaf...
Pencampwriaeth i Rattray Cymro
Rattray Cymro, hwrdd blwydd o'n diadell yn cipio'r brif Bencampwriaeth yn Arwerthiant Clwb Beltex Cymru yn y Trallwng heddiw. Hwrdd wedi ei fagu adre allan o'n hwrdd ni, Rattray Mr Urdd a dafad Hackney Wish List.
Cwsmer hapus
Ffiona Lisa Henson reviewed Rob Rattray Butchers – 5 star. Mathew recommended me on what steak he thought was best to choose, from they're delicious looking selection, for our night in.. I've got to say he was spot on, it was absolutely delicious. We both enjoyed our...
Barnu Sioe’r defaid Beltex
Rob yn cael yr anrhydedd heddiw o farnu Sioe y Defaid Beltex cyn Arwerthiant y brid fory yng Nghaerlewelydd. Sioe arbennig o ddefaid Beltex gorau'r wlad!
Cig Oen yn y Sioe Frenhinol
Cig Oen Dyffryn Ystwyth ar werth yn y Sioe Frenhinol wythnos hyn. Wrth mynedfa 1 i Neuadd Morgannwg.
Porc Pei Priodasol
Llongyfarchiadau i Gethin a Nia James ar eich priodas a phob lwc. Diolch am y cyfle i baratoi Porc Pei ar gyfer y wledd briodas. Rob a'r tim wedi joio'r her!
Selsig Mr Urdd yn y siop wythnos hyn
Selsig Mr Urdd yn y siop wythnos hyn. Pob hwyl i bawb fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod. Joiwch!
Barbeciw neu ginio rhost?
Beth bynnag fydd y tywydd penwythnos yma, mae yma ddigon o ddewis o gig rhost i ddarnau i'r Barbeciw. Mwynhau gwyl y banc!
Tywydd Barbeciw
Amrywiaeth eand o ddarnau i'r Barbeciw yma yn eich disgwyl. Mwynhewch y tywydd braf.
Tim Peldroed Aber yng Ngwpan Cymru
Pob lwc i dim Peldroed Tref Aberystwyth yn chwarae yn ffeinal Cwpan Cymru y prynhawn yma. Pob lwc!
Dewch a’r Barbeciw allan!
Mae'r gaeaf drosto o'r diwedd a thywydd braf y gwanwyn wedi cyrraedd! Dewch a'r barbeciw allan a mwynhewch yn yr haul! Amrywiaeth o fyrgers, kebabs, selsig a llawr mwy. Rhowch alwad i;r siop 01970 615353 i archebu nawr..... neu anfonwch neges ebost...
Cynnig arbennig
Cynnig y dydd! Corned Beef Hash. 2 am £5.00
Staff yn cefnogu tim rygbi dan 17
Aelodau o'r staff lawr yng Nglwb Rygbi Plascrug yn cefnogi tim Rygbi dan 17 Aberystwyth wrth iddynt faeddu tim dan 17 Crymmych. Da iawn chi bois a phob hwyl yn y rownd nesaf.
Pasg Hapus
Oriau agor y Pasg Dydd Iau - Ar agor 8am - 5.30pm Dydd Gwener Y Groglith - Ar gau Dydd Sadwrn Pasg Ar agor 8am - 4pm Dydd Llun Pasg Ar gau Dydd Mawrth Ar agor 8.30am - 5pm Mwynhewch yr Wyl.
4.8 allan o 5 am y Porc Pei!
4.8 allan o 5 am ein Porc Pei! Gwelwch adolygiad porcpeisbach ar Instagram. "Dyma beth oedd Byrbryd o'r radd flaenaf draw yn Aberystwyth. Mae'r cigydd yn adnabyddus yn y dre am grefftio Porc Pei blasus. Roedd y crwst yn ddigon friwsiog a dennau a oedd yn gyfuniad da...
Sul y Mamau hapus!
Peidiwch anghofio Sul y Mamau fory! Coginiwch cinio rhost blasus iddi. Dewis o gig eidon, cig oen, porc a dofednod lleol ar gael heddiw.
Storom o’r Dwyrain!
Trechwch y storom o'r dwyrain. Cadwch yn gynnes a llenwch eich boliau efo pryd da o gig lleol gorau.
Dathlwch Gwyl Dewi
Dathlwch Dydd Gwyl Dewi efo pryd o Gawl Cymreig.
Pei Ham a Wy
Cymerwch dafell o'n pei ham a wy i ginio!
Cymeriadau Aberystwyth
Dennis Griffiths sy'n aelod ffyddlon o'n staff sy'n ymddangos mewn erthygl am gymeriadau Aberystwyth!! Da iawn Den. "Rwy wedi bod yn dosbarthu cig i fwyty lleol. Mae sawl un yn y dre ag archeb wythnosol gyda ni. Mae angen dadlwytho'r fan nawr, wedyn paratoi'r cig...
Countryfile Winter Diaries
Beth mae Rob yn neud efo Jules Hudson?? Hybu cig coch gorau Cymru ar raglen Countryfile Winter Diaries Tiwniwch fewn i Winter Diaries nos Fawrth i weld yr adroddiad o'r Ffair Aeaf ddiwedd llynedd, yn son am safon bwyta cig coch.
1af efo Dafad Flwydd yn Arwerthiant Beeston
Rob yn ennill y wobr gyntaf efo Dafad Flwydd yn Arwerthiant y Gymdeithas Beltex yn Beeston heddiw. Rhif 42 yn y catalog. Rattrays Beaujolais RAT B024 yn ddafad wedi magu adre allan o Rattrays Thatchers Gold (RAT T024) a Dooley Thurstan. Wedi ei sganio yn gyfeb i gario...
Arwerthiant Beltex yn Beeston
4 dafad gyfeb i'w gwerthu ym Arwerthiant Beltex yn Beeston dydd Sadwrn 6ed Ionawr. Lot 42-45. Sioe 9am. Sel 11.00 am. Catalog llawn http://beltexsheepsociety.co.uk/down…/BeestonILSaleCat18.pdf
Blwyddyn Newydd Dda
Blwyddyn newydd Dda i'n holl gwsmeriaid. Diolch am bob cefnogaeth a chyfeillgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe'i gwerthfawrogir yn fawr. Mwynhewch ddathliadau'r flwyddyn newydd ac edrychwn ymlaen i'ch gweld eto yn 2018. Joiwch.
Nadolig Llawen i chi!
Dymuno Nadolig Llawen i'n holl gwsmeriaid a diolch am eich cefnogaeth dros y Nadolig a bob amser. Pob hwyl gyda'r coginio a joiwch yw Wyl gan obeithio y galwith sion Corn gyda chi i gyd!! Nadolig llawen.
Nadolig drosto am flwyddyn arall!!
Wel, dyna ni! Dyna Nadolig drosto am flwyddyn arall. Diolch i'r tim i gyd am eich gwaith di-flino dros yr wythnos diwethaf. Pawb wedi cyd-dynnu a bwrw ati i sichrau fod pob dim yn mynd yn hwylus, Diolch i chi gyd. Nawr bant a ni am sit-down a thamaid i fwyta...
Casglwch eich archebion heddiw!!
Cofiwch gasglu eich archebion heddiw. Ar agor 7.00am to 6.00 pm. Ddim ar agor ar y Sul. Ambell i swrci fferm ar gael. Twrciod di-asgwrn. Dewi o Gig Eidon o Wartheg Duon Cymreig y Ffair Aeaf. Cig Moch o bob math.
12 Dydd y Nadolig
Ennillydd cystadleuaeth "12 Dydd y Nadolig" a gafodd ei redeg gan gwmni Alexanders Estate Agents, yn ystod yr wythnosau diwethaf, Beverley Hemmings yn casglu ei gwobr y pnawn yma o'r siop. Wel am ennillydd balch!! a ninnau'n falch iawn hefyd.....ei theulu wedi bod yn...
Edrychwch ar ol eich dofednod
Cadwch eich dofednod yn yr oergell tan noswyl y Nadolig!! Dydi'r garej, sied neu conservatori ddim digon oer!!. Mae'r tywydd yn fwyn iawn. Rhowch y gofal gorau i aderyn pwysiaf y flwyddyn!! Joiwch y cinio a Nadolig llawen i chi gyd.
Par o adar yr un!
Bechgyn y siop wrth eu boddau....efo aderyn ar bob braich. Dofednod y Nadolig yn dechrau cyrraedd.
Paratoi cig eidon y Nadolig
Y tim wrthi yn paratoi cig eidon y Ffair Aeaf i’r Nadolig. Y gwaith "caib-a-rhaw" yn cael eu wneud yn ein uned yn barod i fynd i'w arddangos a'i werthu yn y siop erbyn y Nadolig. Bydd dewis eang o dorriadau ar gael. Archebwch nawr.
Cig Eidon i’r Nadolig
Cig Eidon o'r Ffair Aeaf, gan gynnwys Pencampwr y Gwartheg Duon Cymreig, a phedwar arall o gynnyrch lleol Ceredigion. Blaswch cig eidon gorau Cymru dros y Nadolig!
Taleb ar gael
Struggling for ideas? Why not give a Rob Rattray Butchers Gift Voucher this Christmas? Beth am roi Taleb i siop Rob Rattray y Nadolig yma? Anrheg defnyddiol i'w wario unrhyw adeg.
Ein cyflenwr ers bron 20 mlynedd
Mae Russell Gibbons a'r teulu yn Fferm Brynblodau, Tregaron, wedi bod yn cyflenwi twrciod ffres i ni yn gyson ers bron 20 mlynedd. Maent yn cael eu magu yn draddodiadol ar faes y fferm yn cael y rhyddid i redeg fewn ac allan i'r caeau fel y mynant ac ar dywydd llai...
Pris uchaf Sel Defaid Cyfeb yn Trallwng
Gwerthu pedair o ddefaid cyfeb y ddiadell a balch cael pris uchaf y sel, sef £900, efo dafad flwydd. Pob lwc i'r prynwyr a diolch am eich cefnogaeth.
Pencampwr Gwartheg Duon Cymreig i’r Nadolig
Falch iawn i fod wedi medru prynu Pencampwr y Gwartheg Duon Cymreig yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ddoe. Eidon 592kg, Hendre Eirian Erian,yn cael ei arddangos gan Emyr Owen of Glanconwy. Am gynnig cig eidon o'r safon orau i'n cwsmeriaid dros y Nadolig.
Porc a Bacwn i’r Nadolig
Moch o'n cynhyrchwr wythnosol Brinley davies yn ennill Is-Bencapwriaeth y moch sengl yn y Ffair Aeaf ac yn cael ei brynu gan Rob Rattray yn y Ffair Aeaf ynghyd a 5 o foch eraill. Llongyfarchiadau Brinley, Carwyn, Eifiona a'r teulu i gyd. Ni'n falch iawn o'ch...
Defaid Beltex Cyfeb i werthu
Pedair dafad gyfeb Beltex i werthu yn Arwerthiant Clwb Beltex Cymru yn y Trallwng dydd Llun nesaf, 4ydd Rhagfyr. Sioe at 10.30. Sel 12. Y pedair wedi sganio yn gyfeb i gario un oen yr un.
Twrciod Ffres o Fferm Brynblodau
Archebwch ein dofednod ymlaen llaw i sichrhau eich gofynnion i'r Nadolig. Mae gennym amrywiaeth eang o dwrciod ffres o fferm Blaenblodau (ein cyflenwr cyson ers bron 20 mlynedd). Gwyddau, Cywion Ieir a Hwyaid Ffress o Ffermydd Lleol hefyd. Rgaid archebu ymlaen llaw....
5 o wartheg y Ffair Aeaf i’r Nadolig
Wel, dyna ni.... wedi bod i'r Ffair Aeaf....(Sioe Da Byw Orau Ewrop!) .... ac wedi prynu 5 o wartheg arbennig o dda i'r siop ar gyfer y Nadolig. Roeddem wrth yn boddau yn gwylio'r dosbarthiadau yn cael eu barnu ac yn crwydro trwy'r siediau gwartheg yn dethol...
Is-bencapwr Moch y Ffair Aeaf ar ei ffordd i’r siop
Prynu Is-bengampwr y Mochyn Unigol o'r Ffair Aeaf ynghyd a phump mochyn arall a rhain i gyd o Fferm Penlan, Talsarn, Llongyfarchiadau mawr i Brinley, Carwyn ac Eifiona ar eich llwyddiant. Moch o'r safon orau yn y Sioe ond mae yna llond lle o foch o gystal safon ar ol...
Archebwch nawr i’r Nadolig
Archebwch eich cig a dofednod i'r Nadolig nawr. Twrciod maes o fferm Brynblodau, ein cyflenwr ers 20 mlynedd. Cysyltwch ar 01970 615353. admin@robrattray.co.uk. neu neges fb.
Profwch y Ciabatta Porc yn Spartacus
Mike Blair o Spartacus, Aberystwyth yn dewis coes o gig porc o'n siop ar gyfer eu cynnyrch newydd "Ciabatta Porc wedi tynnu". Porc lleol o fferm Penlan yn gyson safonol ac medde Mike "Ma' gen i deimlad fod ni mynd i joio hwn!"
Siop y Bont
Mae amrywiaeth o'n bacwn cartref a selsig ar werth nawr yn Siop y Bont, Ponthrydfendigaid
Siop Clettwr
Pob lwc i Siop a Chaffi Clettwr ar ei agoraid newydd. Amrywiaeth eang o fwydydd yma gan gynnwys ein bacwn cartref, selsig amrywiol, cyw iawr, briwgig cig eidon a llawer mwy.
Texels Glas yn Llanymddyfri
3 Dafad flwydd, 2 ddafad hyn, Oen Hwrdd a hen hwrdd ar werth yn Arwerthiant Defaid Lliw llandymddyfri dydd Sul, 1af Hydref Rhifau 1092-1096. MV accredited. Rhifau 1118-1119
Bois y selsig!
Bois wrthi yn brysur gwneud selsig! Paratoi'r cyfan ein hunain a llaw yn ein Uned gig gan ddefnyddio porc o'r safon orau o fferm lleol Penlan i gynhyrchu armrywiaeth o selsig o wahanol flasau bob wythnos. Variety of flavours every week.
Arwerthiant Beltex yn Ruthin 19 Fedi
7 Hwrdd Blwydd and 5 Dafad Flwydd ar werth yn Arwerthiant Beltex Ruthin dydd Mawrth 19 Fedi. Sel am 12.30. Sioe am 10am. Catalog llawn http://docs.wixstatic.com/…/59d5d8_db7ef66d04734096b8bd5b70…
Sel Beltex 19 Fedi
5 Dafad Flwydd ar werth yn Arwerthiant Beltex Ruthin dydd Mawrth 19 Fedi. Sel am 12.30. Sioe am 10am. Catalog llawn http://docs.wixstatic.com/…/59d5d8_db7ef66d04734096b8bd5b70…
Cig Oen Dyffryn Ystwyth
Cynnig arbennig y penwythnos yma. Coes gyfan o Gig Oen Lleol Dyffryn Ystwyth am £9.99 kilo
Pork Pei Blasus!!
Some people ❤ #chocolate but my weakness is #porkpie . Thank you #rob Rattray butchers #aberystwyth for beautiful crisp pastry, tasty filling and surely the best ever pork pie in Wales meddai Rachel Beyonce Hubbard
Cig Oen Tymor Newydd
Cig Oen tymor Newydd ar gael nawr. Cig o'r ansawdd gorau wedi ei gynhyrcu a'i fagu yn lleol gan Gwyn, Enid a Gareth Jones ar fferm y Morfa, Llanrhystud. Maent yn arbennigwyr ar gynhyrchu stoc o'r radd flaenaf ac meddent "mae ein hegwyddorion wed aros yr un fath, ac...
Sal Cymruad Poeth Llawn Lles Cig Oen
Rhannu rysiat Bwyta Cig Oen Cymru & Chig Eidion Cymru 225g (8 owns) O stêcs coes Cig Oen Cymru heb lawer o fraster, wedi'u torri'n stribedi tenau 5ml (1 llwy de) O olew olewydd 15ml (1 llwy fwrdd) O saws soi - heb siwgr ac yn isel mewn halen 100g (4 owns) O quinoa...
Sul y Mamau Hapus
Plesiwch Mam ar Sul y mamau drwy goginio Cinio Rhost i'r teulu cyfan.... a chlirio fynny wedyn!! Dewis o Gig Eidon gorau Cymru, Cig Oen blasus Dyffryn Ystwyth, Porc lleol o fferm Penlan neu Gyw Iar Fferm
Selsig Gwyl Dewi
Selsig Gwyl Dewi ar gael wythnos hyn. Efo Porc lleol o Fferm Penlan, cennin ffres a Chaws Cymreig De Arfon.
Danteithion yr Wyl
Dewis helaeth o ddofednod a phob math o gigoedd yn y ffenest i'r Nadolig.
Cigoedd wedi eu coginio i’r Wyl
Amrywiaeth eang o gigoedd wedi eu paratoi gennym ar gyfer y Nadolig. Coginio yn ddyddiol yn ein cegin ein hun lan ar lofft ac yn cynnwys Pei Helgig, Pei Gala, Pei Porc a Bricyll, Pei Porc, Pate o gwmni Patchwork.
Prynu Mochyn Gorau’r Ffair Aeaf
Falch o allu dweud ein bod wedi llwyddo i brynu Prif Pencampwr Unigol y Moch yn y Ffair Aeaf heddiw ynglyd a 9 o foch eraill. Rydym am sicrhau y byddwn yn medru cynnig cig moch gorau Cymru i'n cwsmeriaid y Nadolig yma! Dewch draw i brofi peth ohonno!
Pencampwr Adran y Moch yn Ffair Aeaf 2016
Llongyfarchiadau enfawr i Brinley Davies, Carwyn ac Eifiona o Fferm Penlan, Talsarn ar ennill y Bencampwriaeth i'r Mochyn gorau yn y Ffair Aeaf bore ma. Da iawn chi!! Camp a hanner ... a hynna ar y tro cyntaf o gystadlu! Brinley yn ein cyflenwi a moch o'r safon orau...
Barnu Carcas Wyn
llongyfarchiadau i dim CFFI Ceredigion am ddod yn drydydd fel tim yn y gystadleuaeth barnu carcas wyn. Dyfrig Williams, Huw Lewis (3ydd dan 21); Steffan Rattray (ail dan 18) ac Elin Rattray yn derbyn tystysgrifau tim oddiwrth Llysgenhades Sioe 2016. Da iawn chi.
[:cy]ccc
[:cy]ccc
Beltex Champion at Llanilar Show
"Rattrays Beauty Spot" today took Beltex Breed Championship in a strong section at Llanilar Show. "Beauty Spot" is out of our homebred dam "Rattrays Pepsi" and sired by Airyolland Slighshot.
25 years in business
Today Rob Rattray celebrated 25 years in business. Thanks to all the loyal customers who have supported us over the years. We very much appreciated your loyalty and know many customers have been loyal throughout the entire period.
Beltex yn Sioe Aberystwyth
Llongyfarchiadau i bwyllgor Sioe Aberystwyth am drefnu sioe dda iawn o ddefaid. Mwynhawyd diwrnod da o arddangos gan ddod oddi yno efo Is-bencampwriaeth gwrywaidd y Beltex efo hwrdd blwydd "Rattrays Alfred". 3ydd efo Oen Fenyw. 1af Grwp Beltex.
Texel Glas yn Sioe Aberystwyth
Llwyddiant efo'r Defaid texel Glas yn Sioe Aberystwyth gan ennill Is-bancwmpriaeth Gwrywaidd y Texel Glas efo oen hwrdd "Rattrays Aldaniti"
Stocman o fri
Balchder mawr oedd gweld Tim Barnu Stoc CFFI Trisant, wedi eu hyfforddi gan Rob Rattray, yn ennill y gystadeuaeth barnu defaid Lleyn yn Rali CFFI Ceredigion dydd Sadwrn. Steffan Rattray yn fuddugol dan 16, ac ef a Rhys a Huw Lewis yn cipio'r cwpan am y tim...
The Harrow at Little Bedwyn
Gweler flas o Gig Oen Dyffryn Ystwyth o'n siop ni yn cael ei weini'n gain yng ngwesty meothus "The Harrow at Little Bedwyn", ym Marlborough, Wiltshire, yr wythnos hon. Mae Roger Jones sy'n hawlio "Seren Michelin" yn gwsmer cyson ac derbyn cig oen oddiwrthym drwy...
Bwydydd parod heddiw
Amrywiaeth eang o fwydydd parod ar gael heddiw gan gynnwys Biff, twrci ac ham wedi eu coginion, wyau sgotyn, pei porc, pei stec a wynwyns, fagot, brawn a mwy.
Selsig Mr Urdd ar ygfer y gwyliau
Amrywiaeth o selsig ar gael wythnos yma gan gynnwys Selsig "Mr Urdd"; Cig Oen, Mel a Mintys; Porc; Porc a Chennin; Porc "Slimmers" a Selsig "Slimmers y Ddraig Gymreig.!
£2 y kilo oddiar ein Golwythion Cig Oen
£2.00 per kg OFF our own LAMB CHOPS today£2.00 y kilo ODDI AR ein GOLWYTHION Cig Oen heddiw
Oriau’r Pasg
Gwesty’r Glengower, Aberystwyth
Llongyfarchiadau i'r Glengower ar ailwampiad ffantastig! Mae'r lle yn fendigedig mewn lleoliad arbennig ar lan y mor wrth draeth y gogledd
Y Ffarmers
Llongyfarchiadau Rhodri ac Esther yn Y Ffarmers, Llanfihangel-y-Creuddyn, ar gael eu henwebu ar restr Walesonline.co.uk fel un o'r "18 gorgeously cosy Welsh Pubs you'll never want to leave". Falch i fedru eich cyflenwi efo cynnyrch hollol lleol i Llanfihangel.
Heddiw yn Unig
Gwerth £12.50 o selsig amrywiol am £9.99. Cynnig heddiw yn unig.
Ffenestr heddiw
Dewis o Gig Oen Dyffryn Ystwyth o'n fferm ni ein hunain; Porc Penlan, cig Eidion lleol Ceredigion o Fferm Morfa, Llanrhystud a Chyw Iau Maes Cefnllan y penwsnos yma. Hefyd Selsig y chwe gwlad, Chorizo, Slimmers Porc; Cig Oen, Mintys a Mel; Porc a Chennin; Porc;...
Gem Cymru -v- Lloegr
Byddwn yn cau am 3 o'r gloch pnawn fory er mwyn i'r staff gael fynd i wylio'r gem rygbi. We will close at 3.00 pm TOMORROW, so that the staff can watch the game.
Selsig y Chwe Gwlad
"Selsig y Chwe Gwald" ar gael yn ystod y tymor Rygbi Rhyngwladol yn unig. Peidiwch a'i miso! Digon o'r porc gorau Cymreig lleol efo ysgytwad o flasau rhyngwaldol. Adlewyrchiad o'r hyn sydd i ddod yn ystod y Bencampwriaeth. Pob lwc i dimoedd Cymru y...
Haggis MacRattray
Rob yn falch o fedru dilyn Llinach y teulu Rattray nol i'r Alban i'r 1820au ac wedi creu rysait eu hun i'r Haggis MacRattray o barch i'w gyndeidiau
Croeso i Dennis
Croeso i aelod newydd o staff sydd wedi ymuno a'r tim ers dechrau'r flwyddyn. Daw Dennis Hodges atom o Swydd Henffordd, wedi gweithio yn y diwidiant cig am dros 30 mlynedd mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn siopau Cigydd ac hefyd mewn ffactoriau prosesi. ...
Da iawn Y Ffarmers
Llongyfarchiadau i Rhodri ac Esther yn ein tafarn lleol Y Ffarmers, Llanfihangel-y-Creuddyn am gael eu henwebu yn y "The Telegraph's Top Chef's Favourite Restaurants". Falch iawn drosto chi. Dyma oedd gan Elisabeth Luard, i ddweud Elisabeth Luard, 9.Y Ffarmers,...
Oriau Agor
Ar gau heddiw Agor fory 8.30-5.00 Agor Dydd mercher 8.30-5.00 Ar agor Dydd Iau 8.00-3.00 Ar GAU Dydd Calan Ar Agor Dydd Sadwrn 8.00-4.00
Cyfarchion y Tim
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda wrth y tim i gyd. Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth yn 2015. Merry Christmas and a Happy New Year from the Rattray team. Thanks to all our customers for their support in 2015.
Barnu Carcas Wyn
Profodd y genedlaeth nesaf o deulu Rattray eu gallu i adnabod stoc o ansawdd yr wythnos yma, drwy dod i'r brig yng nghystadleuaeth Barnu Carcas Wyn Clybiau Ffermwyr Ifainc Cymru yn y Ffair Aeaf. A hithau ond yn 13 oed, llwyddodd Elin Rattray i gipio'r wobr 1af yn yr...
Dewch ‘da ni i siop Rob Rattray
"I ni bant i siop Rob Rattray.... Ma' nhw'n deud fod yr adar pert i gyd yno erbyn 'dolig" Archebwch nawr 01970 615353 admin@robrattray.co.uk
Llongyfarchiadau i Westy’r Belle Vue
Llongyfarchiadau i rai o'n cwsmeriaid Nathan a Charlie o Westy'r Belle Vue Royal yn Aberystwyth a ennillodd eu lle yn rownd derfynol Gogydd Cymru., Da iawn Nathan a Charlie a phob lwc yn y ffeinal ym mis Chwefror. Meddai Nathan Davies "Rob Rattray butchers we...
40 diwrnod i’r Nadolig
40 diwrnod i'r Nadolig. Archebwch eich cig a dofednod nawr .01970 615353 neu ebost admin@robrattray.co.uk
Cynhadledd Flynyddol Hybu Cig Cymru
Rob yn arddangos ei ddull o dorri cig oen yng Nghynadledd Flynyddol Hybu Cig Cymru
Cael blas ar Sosej yr wythnos
Sosej sbesial wythnos yma...."SWEET BURNING CHARIOTS"!!!! Joiwch nhw bois.!
Is-Becampwr yn Arwerthiant Defaid Beltex
Rattray Worthington yn ennill y Bencampwriaeth Gwrywaidd a'r Is-Bencapwriaeth ay Arwerthiant y Defaid Beltex yng Ngaerlywelydd dydd Gwener efo hwrdd wedi ei fagu o fewn y ddiadell
Is-bencampwr gwrywaidd yn Arwerthiant Beltex
Cyntaf yn y dosbarth wyn hyrddod ac Is-bencapwr gwrywaidd y sioe ddoe yn Arwerthiant y defaid beltex yn y Trallwng i "Rattray Alligator" RAT A005 allan o'n hwrdd "Dooley Thurston" and dafad "Rattray Patsy" Gwerthu am £1,000 i feirinaid y dydd sef Huw Owen,...
Hyrddod yn gwerthu yn dda
Cafwyd prisiau da am hyrddod Beltex blwyddi yn arwerthiant Clwb Beltex Cymru yn y Trallwng ddoe gan werthu am gyfartaledd o £883 yr un. Daeth pris uchaf y lloc oddiwrth Owens, Sandilands am win hwrdd sioe sef, Rattrays Wally. Aeth Rattrays Wesley i ymuno a...
Dafad Beltex yn gwerthu i’r Alban
Gwelwyd defaid o'r ddiadell yn dennu prynwyr o bob rhan o'r wlad yn Arwerthiant Clwb Beltex Cymru yn y Trallwng ddoes gyda'r ddafad gyntaf i'r cylch W054 yn gwerthu i fridiwr o Swydd Ayr yn ne'r Alban. Cafwyd y pris uchaf o £500 gan Rhys Lewis o ddiadell Elan Valley...
Epil Rattray yn dod i’r brig
Braf oedd gweld epil o diadell Rattray yn dod i'r brig yn y sioe cyn yr Arwerthiant dydd Mercher. Yn ennill Pencamperiaeth Benywaidd a'r Is-Bencampwriaethac yn gwerthu am £1300 oedd dafad flwydd o eiddo Ioan Jones, sef Tywi Wispa sy'n ferch i Rattrays Stan the Man a...
Hyrddod Beltex ar werth
Naw hwrdd Beltex blwydd yn barod i Arwerthiant Clwb Beltex Cymru yn y Trallwng dydd Mercher. Sioe am 12. Arwerthiant am 2. Rhifau 125- 133. Rattrays Walter RAT W001. Hwrdd cry' a chorfforol allan o Mr Urdd a dafad Belgaidd Rattrays Wmffre RAT W003 a Rattrays...
Deafid Beltex ar werth
2 Oen Hwrdd Beltex ar werthu
Pob lwc Mathew
Mae Mathew yn ein gadael heddiw ar ol wyth mlynedd o wasanaeth i ni. Byddwn yn colli ei allu fel aelod gwerthfawr o'r staff ac hefyd ei gwmni hwyliog. Pob lwc i ti Mathew wrth i ti gychwyn ar addysg bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddilyn gyrfa newydd.
Defaid Texel Glas ar werth
Llysgenhadwr i Porc.Wales
Porc.Wales Am fwy o wybodaeth ewch i http://porc.wales/en/meat-greet/shops/rob-rattray-butchers
Grwp Rhyngfrid yn Sioe Llanilar
Curo 13 o fridiau eraill i ennill y Bencampwriaeth Rhyngfrid i Grwp o Dri yn Sioe Llanilar dydd Sadwrn efo grwp o ddefaid blwydd wedi eu magu ein hunain sef, hwrdd blwydd Rattrays Wally (RAT W019) a dwy ddafad flwydd Rattrays Winni (RAT W044) a Rattrays Winolwen (RAT...
1af Hwrdd Blwydd Beltex Sioe Llanilar
Ennill y dosbarth i wyn gwryw Beltex efo oen hwrdd wedi ei fagu yn ein diadell, sef Rattray alligator (RAT A005). Bydd yr hwrdd ar werth yn Arwerthiant Clwb Beltex Cymry yn y Trallwng ar ddydd Mercher, 2ail Fedi 2015. Mae'r oen allan o un o'n hen ffefrynau yn y...
Pencampwriaeth yn Sioe Llanilar
Texel Glas o braidd Steffan ac Elin Rattray yn ennill Pencampwriaeth yr Adran i Ddefaid o Unrhyw Frid Cyfandirol neu Prydeinig Llawr-Galad arall yn Sioe Llanilar dydd Sadwrn efo dafad flwydd "Rattray X-rated", wedi ei magu allan o ddafad ein hunain a hwrdd o'r...
Arwerthiant Hyrddod NSA
10 Hwrdd Beltex-x-Charolais a 5 Hwrdd Beltex-x ar werth yn Arwerthiant yr NSA yn Llanelwedd ar yr 21ain Medi 2015
Beltex ar werth yn Arwerthiant y Trallwng
9 Hwrdd Blwydd (RAT W001 RAT W003 RAT W005 RAT W008 RAT W009 RAT W019 RAT W011 RAT W013 RAT W023) 10 Dafad Flwydd (RAT W054 RAT W052 RAT W043 RAT W040 RAT W037 RAT W035 RAT W030 RAT W029 RAT W014 RAT W033) a...
Beltex a Texel Glas ar werth
Mae gennym amrywiaeth o ddefaid, hyrddod blwydd ac wyn hyrddod Beltex, Beltex-x a Texel Glas i'w gwerthu yr hydref yma mewn amrywiol arwerthiannau a gartref. Mae croeso i brynwyr galw i'w gweld ar unrhyw adeg, drwy gysylltu ymlaen llaw.
Ennill am farnu defaid Beltex CFfI Cymru
Mor falch o lwyddiant Elin wrth iddi ennill cystadleuaeth Clybiau Ffermwyr Ieuanic Cymru yn Barnu Defaid Beltex (dan 16) yn y Sioe Frenhinol wythnos hyn. Camp arbennig a hithau ond yn 12 oed. Da iawn ti Elin.
Ein cig ar gael yn y Sioe Frenhinol
Prysurdeb yn stondin fwyd Jonathan a Beth Little ar faes y Sioe Frenhinol wythnos hyn.. Mae amrywiaeth o roliau cig oen, byrgers biff a chig oen ar gael ar y safle ger Mynedfa M, rhes A (agos i fynedfa cefn y Babell Flodau) Cig oen o fferm Troedrhiwfronfrech a'r...
Ein Cig Oen lawr £2.00 y kg
Gostyngiad o £2.00 y kilo ar ein cig oen i gyd. Mae ein cig oen i gyd yn cael ei gynhyrchu ar ffermydd lleol a'i dewis gan Rob ei hun. Cig Oen wythnos yma wedi ei gynhyrchu gan Colin Davies ar fferm Troedrhiwfronfrech....sydd llai na 2 filltir o'r siop,
Pob lwc i ti Jonathan
Pob lwc Jonathan
Mae Jonathan theobald yn ein gadael wythnos yma ar ol 9 mlynedd o wasanaeth. Daeth atom ar ol gadael yr ysgol a bydd yn dipyn o newid i ni wythnos nesaf. Pob lwc iti Jonathan wrth iti ddilyn trywydd newydd ac ail gydio ym myd addysg i asudio dy gariad cyntaf, sef...
Llwyddiant yn Sioe Aberystwyth
Diwrnod da yn Sioe Aberystwyth ddoe. Pencampwriaeth Beynwaidd yr Adran Beltex a Is-bencampwriaeth yr Adran gyfan, efo Dafad Flwydd, Rattray Wenolwen.a hynny mewn dosbarthiadau cryf efo 67 o ymgeisiadau yn yr adran gyfan.
Pencampwriaeth Rhyng-frid y Defaid
Buddugoliaeth yn yng nghystadleuaeth Rhyng-frid i Grwp o Dri yn Sioe Aberystwyth efo dwy oen fenyw ac un oen hwrdd o frid y Texel Glas. Roedd y tri wedi eu magu ar ein fferm o ddiadell y Texel Glas ac yn eiddo i'r plant, Steffan ac Elin Rattray. ac yn ennill mewn...
Dilyn ol traed ei mham
Yn Sioe Aberystwyth yn 2011 ennillwyd pencampwriaeth benywaidd y Defaid Beltex ynghyd ac Is-Bencampwriaeth Adran y Defaid gan dafad flwydd a fagwyd gennym, sef dafad a enwyd yn Rattrays Presidents Lady. Yn sioe 2015 dilynnwyd yn union yr un llwybr gan ei merch,...
Cyflenwi cig lleol i Sioe Aberystwyth
Cynnyrch lleol ar gael yn Sioe Aberystwyth fory yn cael ei ddarparu gan Gigyddion Rob Rattray sef Byrger Cig Eidon, Byrger Cig Oen, Porc a Chig Oen i'w gwerthu mewn roliau ar stondin Jonathan a Beth Little sy'n rhedeg cwmni arlwyio lleol o Bont Creuddyn, ger...
Chwilio am cigydd efo profiad
Ras Rafft Gwesty’r Glengower
Ffermio Dydd Sadwrn 12.30
Ail-ddarllediad 12.30 heddi. S4C. "Yr wythnos hon.........a bydd Meinir Howells yn ymweld â theulu’r Rattray ger Aberystwyth sydd wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth y defaid Beltex."
Clwb Beltex Cymru yn ymweld a’r praidd
Ar ddydd Llun Gwyl y Banc, croesawyd aelodau Clwb Beltex Cymru i'r fferm i weld y ddiadell Rattray o ddefaid Beltex. Rhain fu'n fuddugol yng ngystadleuaeth diadell fawr y flwyddyn yn 2013 a 2014. Soniodd Rob wrthynt am hanes y llinellau magu o fewn y ddiadell a...
Arddangosfa Torri Cig Oen
Yn ystod ymweliad Clwb Beltex Cymru, arddangosodd Rob ei sgiliau wrth dorri cig oen mewn amrywiol dduliau gan son am ei ffyrdd ei hun o arddangos a farchnata ei gynnyrch yn y siop.
Barbeciw i ddilyn ymweliad Clwb Beltex Cymru
Cwblhawyd y prynhawn efo barbeciw cig oen a chyfarfod o'r Clwb.
Cig Eidon Cymreig
Cig Eidon Du Cymreig yr wythnos yma o fuches enwog a lleol "Neuadd" o eiddo William Jenkins, Neuadd yr Ynys, Taliesin
Cyflenwyr yr wythnos yma
Cig Eidon o Robert Lewis a'r teulu, fferm Glanelan, Cwmdauddwr Porc a Chig Moch - Brinley & Carwyn Davies, Penlan Cig Oen o Fferm Morfa, Llanrhystud...
“Wales on line” yn enwi y 45 ty bwyta goaru yng Nghymru…
Llongyfarchiadau i'n cwsmeriaid Baravin, Aberystwyth, Harbourmaster, Aberaeron, Y Ffarmers, Llanfihnagel-y-Creuddyn, Gwesty Cymru, Aberystwyth ac Ultracomida, Pier Street, Aberystwyth a enwebwyd yn rhestr 45 ty bwyta gorau Cymru yn...
Cig Oen Tymor Newydd
Cig oen Cymreig lleol ar gael ar gyfer penwythnos y Pasg. Cig Oen cyntaf tymor newydd o Fferm y Morfa Llanrhystud wythnos hyn.
Wythnos Brecwast 25-31 Ionawr
Dechreuwch y dydd yn iawn gan lenwi eich boliau efo pryd da o frecwast yn cynnwys tafell o facwn cartref, efo selsig ein hunain ac wyau maes Alltfedw.
Beltex Rattray yn ennill y Gystadleuaeth Diadell Fawr
Dyma lun o ddefaid ein ddiadell Beltex a ennillodd wobr am y Ddaidell Fawr Orau efo Clwb beltex Cymru yn ddiweddar. Dyfarnwyd y gystadkeuaeth gan Mr John Hall, Llywydd Cymdeithas y Defaid Beltex yn ystod yr hydref a gwelir yn y llun y ddiadell ar yr adeg hynny,
Haggis traddadiadol McRattray
Blaswch Haggis McRattray...wedi ei paratio a'i coginio yn ein cegin ni I ryseit draddodiadol.
Selsig yr Wythnos
Selsig yr wythnos hyn yn cynnwys Porc, Porc a Chennin, Cig Oen , Mintys a Mel Porc "Slimmers" a Porc, Puper Lemwn a Chennin Syfi "Slimmers"
Blwyddyn Newydd Dda
Dymuniadau gorau am flwyddyn newydd dda i chi gyd gan ddiolch am bob cefnogaeth yn 2014.
Amserau Agor
Dydd Mawrth 23ain Rhagfyr 7.00 - 5.30 Noswyl Nadolig 7.00 - 3.00 (Archebion I#w casglu erbyn 2) Dydd Nadolig a Gwyl Sant Steffan Ar GAU Dydd Sadwrn 27ain Rhagfyr 8.00 - 2.00 Dydd Sul 28 Rhagfyr Ar Gau Dydd Llun 29ain Rhagfyr AR GAU...
Rhowch daleb i Siop Rob Rattray fel anrheg y Nadolig yma
Angen anrheg funud olaf?............beth am roi Taleb i Siop Cigydd Rob Rattray?. Ar gael am unrhyw swm a gellir ei defnyddio fel y mynnwch ... wrth siopa unwaith neu dros gyfnod o wythnosau. Anrheg defnyddiol a delfrydol ! Ar gael drwy'r flwyddyn.
Wythnos i’r Nadolig – ond dydi hi ddim rhy hwyr i archebu eich dofednod!
Is-Bencampwr y Ffair Aeaf a Phencampwr y Bustuch, a brynwyd gan Rob Rattray yn yr arwerthiant, wedi gael ei arddangos gan Aeron & Berwyn Hughes, Cwmhendryd, yn awr yn ein huned cig yn barod i'w baratoi erbyn y Nadolig. Wedi lladd allan yn 68.4% (624kg pwysau byw,...
Cig Eidon i’r Nadolig
Ein Cig Eidon o'r Ffair Aeaf yn hongian ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd yn y siop yn ystod yr wythnos. Archebwch yn awr i sicrhau toriadau addas.
“Fi sydd ar corff gorau yma ac mi rydw i ffwrdd i siop Rob Rattray cyn y Nadolig!!”
A ydych chi wdi cofio archebu eich cig i'r Nadolig? Dydy hi ddim rhy hwyr. Archebwch yn awr o Siop Rob Rattray. Phoniwch 01970 615353. Ebostiwch archebion@robrattray,co.uk beu archebwch ar facebook. Diolch,
Ennillydd arall o’r Ffair Aeaf
Dai Jones yn edmygu un arall o'n gwartheg sef Is-Bencampwr y Bustych yn y Ffair Aeaf. Eidon croes Charolais o eiddo teulu Hughes, Cwmhendryd yn cael ei arddangos yma gan y cynorthwydd ifanc a chyfrifol Cai Edwards.
Hwrdd Beltex o ddiadell Rattray yn ennill Pencampwriaeth y Carcas
Llongyfarchiadau i un o'n cyflenwyr, Rob Lewis o Fferm Glanelan, Cwmdauddwr her Rhaedr Gwy ar ennill Prif Pencampwriaeth y Carcas Oen yn Ffair Aeaf Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos yma. Da iawn wir. Mynd a 11 carcas i'r Ffair ac ennill 11 cerdyn gan gynnwys...
8 o Wartheg o’r Ffair Aeaf
Rydym wedi sichrau bydd gennym gig eidon gorau Cymru yn y siop i'r Nadolig!!. Wyth o warthog wedi eu prynu yn y Ffair Aeaf wythnos yma gan gynnwys Is-Bencamper y Sioe, sef Pencampwr y Bustych. Eidon croes Glas Prydeinig, oedd hwn o eiddo Aeron a Berwyn Hughes o...
Archebwch ein dofednod i’r nadolig NAWR
A ydych wedi archebu eich dofednod i'r Nadolig eto? Os nag ydych, nawr yw'r cyfle, peidiwch gadael yn rhy hwyr........ffoniwch ni yn y siop 01970-615353 neu e-bostiwch ni archeb@robrattray.co.uk
Ein cyw iar maes ni ar grwydr!
Ein cyw iar maes ar grwydr ar hyd y dre yn chwilio am archebio Nadolig.
Neges ar Facebook Ffair Aeaf Lloegr
Cig Eidon wythnos yma
Cig Eidon Du Cymreig o Wil Davies,Brynglas, Ponterwyd sy'n magu Gwartheg Duon Cymreig o'r safon gorau o fuches enwog Coedllys.
Calendar 2015
Rydym yn fodlon hysbysebu gweithgareddau ein cwsmeriaid ar ein calendar blynyddol, yn rhad ac am ddim ....os cawn y wybodaeth mewn llaw o fewn yr wythnos nesaf.
Sgwrsio a hel gyfaill o Seland Newydd
Rob yn mwynhau'r cyfle i sgwrsio efo cyfaill a cyn cyd-chwaraewr Tim Rygbi Aberystwyth tra ar ei ymweliad o Seland Newydd.
Cyflenwyr ar “Cefn Gwlad”
Llongyfarchiadau i deulu'r Hughes', fferm Cwmhendryd ar raglan wych o "Cefn Gwlad" neithiwr. Sioe arbennig o wartheg biff a chyflwyniad hyfryd o'r teulu cyfan. Da iawn chi. Bydd cyfle i ail-weld y rhaglen ar bnawn Iau 2 Hydref am 1.30 neu dydd Sadwrn 11 Hydref am...
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr i'n cyflenwr, Berwyn Hughes, ar ei briodas a ffrind teuluol Elin Jones, dydd Sadwrn. Pob hwyl i chi eich dau i'r dyfodol.
Defaid Texel Glas yn Sel NSA dydd Llun 22 Medi
Hwrdd Blwydd a Dwy Ddafad Flwydd ar werth yn Sel yr NSA yn Llanelwedd dydd Llun nesaf. Cylch 6. Rhif 1387. Rattrays Wizzkid. Hwrdd Blwydd, allan o ddafad ein hunain, Rattrays Tanneka, a hwrdd wedi ei fewnforio o wlad Belg o dras yr Iseldiroedd BE 4212-0812. ...
Dafad Flwydd Texel Glas yn gwerthu am £950
Safodd dwy ddafad o ddiadel y Rattrays yn 2ail a 4ydd yn nosbarthiadau y Defaid Blwydd yn Sioe ac Arwerthiant Caerwragon yn ddiweddar. Yn ail ac yn gwerthu am £950 I deulu Harding o cefnypwll Abermiwl oedd RATTRAYS WICKED LADY, tra roedd RATTRAYS WISHFUL...
Pencampwriaeth Arwerthiant Beltex Y Trallwng
Dyfarnwyd hwrdd blwydd o eiddo teulu'r Rattrays yn Bencampwr yn Arwerthiant y Defaid Beltex yn y Trallwng dydd Mercher 3ydd Fedi 2014 gan y beirniad profiadol, Mr John Hall o ardal Caerlywelydd. Enillodd "Rattrays Tyson" (RAT T037) glod eisioes pan ddaeth yn ail yn...
Had Texel Glas ar Werth
Had o'n hwrdd "Penybec PGA/06/3014M" ar werth am bris. teg. Ennillod y wobr gyntaf yn nosbarth yr wyn hyrddod yn adran y defaid Glas Texel yn y Sioe Frenhinol yn 2006 ac mae'n dad neu'n daid i'r mwyafrif o ddefaid ein diadell ni. Ennillodd tri o'i epil y Grwp...
Beltex Caerwrangon
Yn Barod ar gyfer Arwerthiant Beltex yng Nghaerwrangon dydd Gwener......Rattrays Tywysog (RAT T052) mab i'r enwog Mr Urdd ...........(ac yn hanner brawd I bencampwr Y Trallwng ddoe) a'i fam yn un o ffefrynau y ddiadell, Rattrays Presidents Lady, (wedi ei henwi felly...
Hwrdd Glas Texel ar Werth
Rhif 254 Rattrays Wilfred. Hwrdd Blwydd Glas Texel ar werth yn Sel Caerwrangon dydd Gwener nesaf.
Defaid Glas Texel ar werth yn Sel Caerwrangon
Defaid glas Texel ar werth yn Sel Caerwrangon ar y 5ed Fedi I gynnwys Rhif 150 RATTRAYS WISHFUL THINKING (RAT/13/0024W) geni 06/03/2013 Twin Tad : Rattrays Werbrouck 4212-0814 (wedi mewnforio) Mam Rattrays Tywysoges RAT/11/2580 Rhif 151 RATTRAYS...
Had o Rattrays Mr Urdd ar werth gennym. Hwrdd cryf, cyhyrog a ennillodd Bencampwriaeth Gwrywaidd yr Adran Beltex yn y sioe Frenhinol yn 2010.
Arwerthiant Beltex Y Trallwng 3 Medi 2014
Defaid Blwyddi Beltex ar Werth yn Arwerthiant Y Trallwng dydd Mercher yma. Sioe am 1. Arwerthiant am 3. Rhifau 39-44 Maynlion llawn ar wefan http://www.beltex.co.uk/Welsh_Premier_Beltex_14.pdf
Hyrddod Beltex ar werth Y Trallwng 3 Medi 2014
Hyrddod Texel Glas ar werth yng Ngaerwrangon
Ar werth yn Arwerthiant Caerwrangon ar y 5ed Fedi bydd Oen Hwrdd Rhif 296 RATTRAYS X-BOX allan o hwrdd Werbrouck 4212-0812 wedi ei fewnforio o wlad Belg a dafad ein hunain Rattratys Tanneka (RAT/11/00004). Hwn yn oen cryf ac wedi ei arddangos yn y Sioe Frenhinol...
Rob yn barnu defaid Beltex yn Sioe Brycheiniog
Rob yn mwynhau bore prysur o feirniadu defaid Beltex yn Sioe Sir Frycheiniog.
Wyn Hyrddod Beltex ar werth
Tri Oen Hwrdd o'r ddiadell ar werth yn Arwerthiant y Gymdeithas Defaid Beltex yng Nghaerlewelydd ar 14eg Awst 2014 312 Rattray's Waldo (RAT.W018) Mam : Rattray's Patsy. Dafad o linach Clary Keiser Chief a Grays Mustang Sally.............Ein oen...
Hyrddod a Defaid Beltex ar werth
Hyrddod a Defaid Blwydd o'r ddiadell ar werth yr haf yma. Rhai yn Arwerthiant Clwb Beltex Cymru ym Marchnad y Trallwng ar Ddydd Mercher 3ydd Medi 2014. Eraill ar werth o adref. Tri Oen Hwrdd Beltex ar werth yn Sel y Gymdeithas yng Nhaerliwelydd ar y 14eg Awst...
3ydd yn Adran y Tywyswyr Ifainc yn y Sioe Frenhinol
Er dim llwyddiant efo'r defaid eleni, balch iawn oedd Rob o weld Elin yn sefyll yn 3ydd mewn cystadleuaeth gref iawn yn Adran y Tywyswyr Ifainc yn y Sioe Frenhinol. Bu wrthi yng ngwres y dydd, ar y prynhawn dydd Mercher yn profi ei gallu i arddangos oen hwrdd Texel...
Elin yn ennill Tlws y Tywyswr Ifanc yn Adran Beltex y Sioe Frenhinol
Elin yn llwyddo i ddod i'r brig yng ngystadleuaeth y tywyswyr ifainc yn Adran y defaid Beltex yn y Sioe Frenhinol prynhawn dydd Mawrth. Braf oedd gweld brwdfrydedd a chyfeillgarwch yr ieuenctid wrth iddynt arddangos eu gallu yng ngylch y defaid a hynny ar ddiwedd...
Bydd Cig Eidon wedi ei gynhyrchu gan Rob Lewis ar Fferm Glanelan a chig oen o'n fferm ni ein hunain, ar fwydlen Tafarn y Triongl yng Nhwmdauddwr, Rhaedr Gwy (www.triangleinn.co.uk) yr wythnos nesaf, ar gyfer ymwelwyr fydd yn ymweld a'r ardal dros wythnos y Sioe...
Diadell y Flwyddyn Clwb Beltex Cymru
Rob, Sheila, Steffan & Elin Rattray yn derbyn y Cwpan am Diadell y Flwyddyn Clwb Beltex Cymru oddiwrth cyn-Gadeirydd y Clwb, Hefin Hughes. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan Mr Tom Ashton o Wigan, Swydd Caerlyr. Ef oedd y gwr cyntaf i fewnforio defaid Beltex o...
Cig Eidon o fuches Ddu Gymreig
Cig Eidon yr wythnos hon o Fushes Ddu Gymreig enwog "Neuadd" wedi ei magu gam William Jenkins, Neuadd yr Ynys,Taliesin
Cig Eidon o Fushes Henffordd Bur
Cig Eidon yr wythnos hon o fuches bur Henffordd wedi ei gynyrchu gan ein gwas fferm, Stephen Griffiths a'i dad ar fferm, Pantmawr, Pisgah
www.robrattray.co.uk yn Gymraeg
Dathlwn Dydd Gwyl Dewi efo gwefan Gymreig! Cymerwch olwg arno a mawr obeithiwn fydd ei gynnwys yn plesio! Mae gennym un neu ddau o fan broblemau sydd eto i'w datrys yn dechnolegol...........felly maddeuwch i ni am y tro! Gobeithiwn y byddwn yn medru datrys...
Ein Gwefan Gymreig
Bydd ein gwefan Gymreig bron yn barod a bydd i'w weld o Fawrth 1af ymlaen! Trowch mewn i edrych arno ar Ddydd Gwyl Dewi. Rydym yn agored i unrhyw sylw a chyngor. Gellir gysylltu ar ebost archeb@robrattray.co.uk neu swyddfa@robrattray.co.uk.
Dathlwch Dydd Gwyl Dewi
Dathlwch Dydd Gwyl Dewi efo pryd o Gig Oen Dyffryn Ystwyth, Cig Eidon lleol neu Cig Moch a Phorc Cymreig.
Fflat i’w osod Canol Tref Aberystwyth
Fflat ar gael i'w gosod yn Stryd y Ffynnon Haearn, Aberystwyth mewn cyflwr da. Fflat ail-lawr efo cyntedd preifat, Cegin a lle bwyta efo unedau, popty, rhewgell a peiriant golchi a sychu, Lolfa cyfforddus, Ystafell wely ddwbwl, Ystafell Ymolchi. Gwres...
Gem fawr Nos Wener – nid dydd Sadwrn!
O diar ....camgymeriad ar ein calendar!! Mae gem Cymru -v- Ffrainc arno Nos Wener am 8.00 ac nid dydd Sadwrn fel a ymddengys ar ein calendar. Ddrwg iawn gennym am hyn....peidiwch a colli'r gem o'n herwydd!
Stecen i Sant Folant
Mwynhewch stecen orau Ceredigion dros benwythnos Sant Folant.
Cig Eidon a Chig Oen Cymreig
Blwyddyn wedi y sgandal cig ceffyl mae Rob yn dweud "Gwelwyd cwsmeriaid newydd yn dod i'r siop yn sgil y sgandal cig ceffyl. Rydym yn ymfalchio mewn cynnyrchu lleol a gallwn sefyll tu ol y cownter yn hollol hyderus y gallwn olrhain y tarddaid a'n bod yn cynnig...
Crempog Dwbwl
Ymddiheiriadau lu i'n cwsmeriaid a ddilynodd ein calendar a gwneud grempog dydd Mawrth diwethaf!!. 4ydd Mawrth yw'r diwrnod crempog swyddogol. Sori bobol ond falch deall bod gymaint ohonoch yn defnyddio ein calendar. Dyma sgem Rob i gael crempog ddwy waith...
Selsig y Chwe Gwlad
Mwynhewch pryd blasus efo'n selsig unigryw Chwe Gwlad wrth wylio gemau rygbi'r Twrnament Chwe Gwlad y gwanwyn yma. Pob lwc i dim Cymru.
Gwefan Gymreig!
Rydym nawr wrthi yn paratoi fersiwn Gymreig o'r wefan. Mae gennym ychydig o waith i'w wneud arno eto ond mawr obeithiwn y bydd yn barod i'w lawnsio yn swyddogol ar Ddydd Gwyl Dewi. Felly edrychwn ymlaen at Fawrth 1af a mawr obeithiwn y byddwch ym mwynhau pori...
Nadolig Llawen
Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'n holl gwmeiriaid. Mwynhewch yr wyl.
Oriau Agor
Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 8 am to 4 pm Dydd Sul 22 Rhagfyr 10 am to 3 pm Dydd Llun 23 Rhagfyr 7 am to 5.30pm Dydd Mawrth 24 Rhagfyr 7 am to 3 pm DYDD NADOLIG AR GAU DYDD SANT...
Llyfr Ysgol Llanfihangel Y Creuddyn
Mae'r llyfr wedi cyrraedd! Ar werth yn y siop o heddiw ymlaen. Trysor o lyfr yn cofnodi 175 mlynedd o hanes yr ysgol arbennig yma. Wedi cael cipolwg arno ac mae'n gasgliad o luniau lliw a du a gwyn o 1900 hyd heddiw, dyfyniadau o'r llyfrau log ers 1878, dogfennau...
Cig Eidon Gorau Cymru o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd
Gwelwyd Rob yn barnu dosbarthiadau'r moch byw yn y Ffair Aeaf yn llanelwedd dydd Llun ac yna barnu'r Pencampwraiethau ar y dydd Mawrth. Yn hwyrach yn y dydd, bu Rob yn llwydiannus wrth brynu Pencampwr y Moch oddiwrth Andrew Davies o Llanon. Prynwyd hefyd 8 o...
Adar da yw adar Rattray !
A ydych wedi archebu eich dofednod i'r Nadolig eto? Os nag ydych, nawr yw'r cyfle, peidiwch gadael yn rhy hwyr........ffoniwch ni yn y siop 01970-615353 neu e-bostiwch ni archeb@robrattray.co.uk
Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol
Pob lwc i'n holl gwsmeriaid fydd yn cystadlu yn y Ffair Aeaf wythnos nesa. Edrych ymlaen i'ch gweld chi yno.
Byddwch ar y blaen !
Archebwch eich cig i'r Nadolig nawr...........un peth yn llai i ofidio am!
Ffair Fwyd Aberystwyth
Galwch i'n gweld yn y ffair Fwyd yng Nhanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth dydd Sadwrn 23ain Dachwedd.
Archebwch eich cig Nadolig NAWR
Archebwch eich cig a dofednod i'r Nadolig nawr. Archebwch yn gynnal a bydd hyn yn help i ni i sicrhau y gallwn gadw yn union beth ydych eisiau i'r Wyl.
Pencampwriaeth Benywaidd y Texel Glas yn y Sel Hyrddod
Rattrays Verona RAT/12/00009 (rhif 1454) a ennillodd y Bencampwriaeth Benywaidd yn Adran y Defaid Texel Glas heddiw yn Sioe y bridiau cyn yr Arwerthiant fory. Safodd yn gyntaf yn nosbarth y defaid blwyddi Texel Glas cyn mynd ymlaen i ennill y Bencampwriaeth, tra...
Arwerthiant Defaid Beltex yn Trallwng
Grwp o hyrddod a defaid safonol o braidd y Rattrays ar werth yn Arwerthiant Clwb Beltex Cymru yn y Trallwng, dydd Mercher, 4ydd Medi 2013. Sioe am 1 o'r gloch ac Arwerthiant am 3 o'r gloch. Defaid Blwyddi LOT 10 Messrs R & S Rattray (Rattray's) RATTRAY'S SGUTHAN...
Cig Oen Tymor Newydd
Da iawn tim Cymru!
Dim cig ceffyl yma
Brecwast Fferm
Adduned Blwyddyn Newydd
Gwefan Gymraeg
Blwyddyn Newydd Dda
Nadolig llawen
Barnu yn y Ffair Aeaf
Cwpan Her y Fam Frenhines yn y siop erbyn Nadolig
Runners up at Butchers Shop of the Year Awards (Wales region)
Alwyn yn barnu yn y Ffair Aeaf
Cig Eidon Cymreig
Cig Oen Cymreig
Lynda Bellingham shops at Rob Rattray’s
Croeso Daniel
Gwaith i Gigydd efo profiad
As Jonathan leaves us after 9 years of loyal service, to further his education and a new career, we are looking for an experienced Butcher to join our team of staff. Gan fod Jonathan yn ein gadael ar ol 9 mlynedd o wasanaeth diflino i ddilyn gyrfa newydd ac addysg...
Selsig yr wythnos
Y staff yn mwynhau buddugoliaeth Cymru efo'i selsig pwrpasol!
Pencampwriaeth y defaid yn Ffair Aeaf Lloegr
Rob wedi dewis ei restr fer,allan o dros 300 o wyn mewn 21 o ddosbarthiadau, ar gyfer Pencampwriaeth Adran yr Wyn yn Ffair Aeaf Lloegr yn Stafford heddiw