Naw hwrdd Beltex blwydd yn barod i Arwerthiant Clwb Beltex Cymru yn y Trallwng dydd Mercher.  Sioe am 12. Arwerthiant am 2. 

Rhifau 125- 133.   Rattrays Walter RAT W001.  Hwrdd cry’ a chorfforol allan o Mr Urdd a dafad Belgaidd

Rattrays Wmffre RAT W003 a Rattrays Waffler RAT W005 o’r un llinach a’r uchod

Rattrays Watson RAT W008 a Winston Churchill RAT W009 , eto allan o Mr Urdd a un o’n hoff hen ddefaid, Pulston Lauretta a W009 yn hwrdd sy’n driw i’w enw …yn pwerus a chryf o gymeriad.

Rattrays Wally  RAT W019 Sef ein hwrdd Sioe eleni. Hwrdd smart iawn a pwerus o gorff allan o Mr Urdd a Polly sy’n  un o ffefrynau y ddiladell

Rattrays West End Boy RAT W011 eto allan o Mr Urdd a defad o linach Belgaidd, sydd wedi magu’n dda yn y ddiadell

Rattrays Wesley RAT W013.   Smart ac yn adlewyrchu nodweddion y brid yn gryf, gyda 75% o linach  Belgaidd ynddo

Rattrays Warhorse RAT W023 Hwrdd llydan a phwerus gyda corff eithriadol allan o’r nwrdd Ballydown Lancer a Rattrays Royalty. 

 

 

Manylion llawn ar gael r-lein http://www.beltex.co.uk/Welshpool_Beltex_Catalogue_2015.pdf.