Ar werth yn Arwerthiant Caerwrangon ar y 5ed Fedi bydd Oen Hwrdd Rhif 296 RATTRAYS X-BOX allan o hwrdd Werbrouck 4212-0812 wedi ei fewnforio o wlad Belg a dafad ein hunain Rattratys Tanneka (RAT/11/00004). Hwn yn oen cryf ac wedi ei arddangos yn y Sioe Frenhinol eleni a dyma lun o Elin yn ei arddangos yn nosbarth y tywyswyr ifainc
Hwrdd Blwydd Lot 254 RATTRAYS WILFRED (RAT13/0033W) hefyd allan o hwrdd Werbrouck a dafad ein hunain RAT/09/2094 ac wedi ei arddangos yn y Sioe Fawr
Mae croeso i brynwyr alw i weld y ddiadell ar unrhyw adeg, dim ond gwneud trefniadau ymlaen llaw. Am fanylion pellach ar Arwerthiant Caerwrangon ewch i http://www.mccartneys.co.uk/Livestock_Auctions/Pedigree_Sales/Forthcoming_Sales/cms_post-Blue-Texel-Sheep-Friday-5th-September-3323