Llongyfarchiadau i staff a phlant Ysgol Llanfihangel y Creuddyn ar ddathlu penblwydd yr ysgol mewn steil !  Da iawn chi wir.   Cafwyd diwrnod a hanner!!  Roedd yr ysgol yn byrlymu efo hen hanes a straeon diddorol  a phawb yn ymfalchio yn eu cysylltiadau a’r ysgol wrth hel atgofion am y dyddiau a fu –  gan hefyd fwynhau talentau y to^ presennol.   Edrychwn ymlaen yn awr at lawnsiad Llyfr y Dathlu yn hwyrach yn y flwyddyn.     Pob lwc yn awr i’r ysgol i’r dyfodol.