Cawl Cig Eidon Ceredigion

  • Cynhwysion

    • 1pwys Cig Eidon Ceredigion wedi deisio
    • 1 wynwynsyn wedi sleisio
    • 1 cenninen wedi sleisio
    • 2 moronyn wedi sleisio
    • hanner swedsen wedi torri fyny
    • 3 twten wedi torri fyny
    • 3/4 peint o ddwr
    • halen a phupur i flasu

    Dull

    • Browniwch y cig eidon a’r wynwyns mewn sosban fawr
    • Ychwanegwch gweddill y cynhwysion a dewch a hwy i’r berw
    • Rhowch y caead arno a’u mud-ferwi am tua awr a hanner
    • Gweinwch mewn bowleni gyda darnau mawr o fara crystiog a chaws Cymreig
    • Addurnwch efo persli mewn sprigyn neu wedi malu
    • Mwynhewch