Tagine Cig Oen Dyffryn Ystwyth

Cynhwysion

  • 1kg Cig Oen Dyffryn Ystwyth Deisiog
  • 2 wynwnsyn wedi ei torri
  • 1 llond llwy de cinammon
  • 1 llond llwy de tumeric
  • 1 llond llwy de sinsir wedi falu
  • 1 llond llwy de cumin wedi falu
  • 1 llond llwy de pobsbeis wedi falu
  • 125g datys meddal heb gareg
  • 125g bricyll sych
  • 250ml sudd afal
  • 250ml dwr
  • halen i flasu

Dull

  1. Browniwch y cig (i selio y darnau) a coginiwch yr wynwyns i’w meddalu
  2. Ychwanegwch y sbeisis a’i coginio am ryw ddwy funud
  3. Ychwanegwch gweddill y cynhwysion a dod a’r cyfan i’r berw
  4. Coginiwch yn araf – naill yn y popty neu ar yr hob – am ryw ddwy awr
  5. Addurnwch efo sprigyn o coriander
  6. Gweinwch efo reis, couscous neu tatws stwmp